£189,000
3 bed terraced house for saleTrefor, Caernarfon LL54
3 beds
1 bath
3 receptions
EPC Rating: G
- Freehold
Tudor Estates Agents
.png)
About this property
Ty ynghanol teras
Golygfeydd tuag at Yr Eifl
Tair llofft ac atig aml-bwrpas
Lolfa, Ystafell Fyw ac Ystafell Fwyta
Gardd gefn helaeth
Pentref gwledig gyda nifer o gyfleusterau
Cynigion Dros £189,000 - Mae’n bleser gan Werthwyr Eiddo a Syrfewyr siartredig Tudor gynnig ar werth gartref delfrydol i deulu ym mhentref Trefor, Arfon. Mae'r eiddo yma yn mwynhau golygfeydd ysblennydd o’r Eifl a’r Gurn Ddu. Mae’r eiddo o fewn 25 metr i’r arosfannau bws, gyda gwasanaeth bob awr i gyfeiriad Pwllheli a Chaernarfon; capel dros y ffordd ac ysgol gynradd Yr Eifl o fewn 100 metr. Ceir hefyd siop fwyd, Swyddfa Bost a chae chwarae.
Gwres canolog (nwy) a ffenestri dwbwl drwy’r ty.
Yn gryno, mae'n cynnwys y canlynol: - Cyntedd. Lolfa. Ystafell fyw. Ystafell fwyta. Cegin. Tair ystafell wely. Ystafell ymolchi. Mantais o ystafell atig/aml-bwrpas. Gerddi yn y blaen a’r cefn. Mae'r ty yn barod i symud i fewn iddo ac nid oes tsaen brynwyr yn bod.
Llawr Gwaelod
Cyntedd
Rheiddiadur. Grisiau i'r llawr cyntaf. Drws i:
Lolfa (3.38m x 3.89m (11'1 x 12'9))
Rheiddiadur.
Ystafell Fyw (3.91m x 3.63m (12'10 x 11'11))
Rheiddiadur. Lle tân gyda llosgwr aml-danwydd newydd sbon.
Ystafell Fwyta (2.51m x 2.79m (8'3 x 9'2))
Rheiddiadur. Drws i gwpwrdd dan grisiau.
Cegin (2.59m x 2.84m (8'6 x 9'4))
Cegin fodern compact. Lle ar gyfer popty a peiriant golchi dillad. Drws yn arwain at y cowt/iard allanol, sied fechan storio.
Llawr Cyntaf
Pengrisiau
Ystafell Ymolchi (2.57m x 3.12m (8'5 x 10'3))
Baddon a chawod drydan uwchben. Ffan trwy'r wal. Basn ymolchi. Toiled. Rheiddiadur. Cwpwrdd yn cynnwys boilar nwy (gwresogi a dwr poeth) a lle storio.
Llofft 1 (Ffrynt) (2.87m x 3.94m (9'5 x 12'11))
Rheiddiadur.
Llofft 3 (Ffrynt) (1.78m x 2.72m (5'10 x 8'11))
Rheiddiadur.
Llofft 2 (Cefn) (2.92m x 2.87m (9'7 x 9'5))
Rheiddiadur.
Ystafell Atig
Drws a grisiau serth i'r atig/stafell aml bwrpas a stafell storio.
Tu Allan
Gardd fechan yn y ffrynt. Gardd helaeth yn y cefn gyda golygfeydd agored. Sied ardd gyda chyflenwad trydan.
Gwasanaethau
Rydym yn deall bod y prif gyflenwad dwr. Draenio a thrydan wedi'u cysylltu â'r eiddo. Poteli Nwy. Dylai darpar brynwyr wneud eu hymholiadau eu hunain ynghylch addasrwydd a digonolrwydd y
gwasanaethau hyn.
Perchnogaeth
Rydym yn deall bod yr eiddo yn rhydd-ddaliad gyda meddiant gwag ar gael ar ôl ei gwblhau.
Zoopla insights
Sign in and gain expert analysis to make informed decisions