Offers in region of
£565,000
1 bed farmhouse for saleHeol Tanygroes, Tresaith SA43
1 bed
1 bath
- Freehold
Dai Lewis Cyf
.jpeg)
About this property
Wedi ei leoli o fewn pellter byr i’r arfordir, hen ffermdy 4 ystafell wely a adnewyddwyd oddeutu 2012/13, sy’n sefyll ar ddarn o dir cryno a hawdd ei gynnal a’i gadw, gyda golygfeydd o’r arfordir o un cyfeiriad penodol; mae’n darparu lle cyffyrddus at ddefnydd teuluol neu ar gyfer gwyliau/rhentu allan, ac mae’n agos i bentref ymwelwyr poblogaidd Tresaith ac o fewn rhyw filltir i ffordd fawr yr A487, ac fe’i gelwir yn:
Lleoliad: Cyfeirnod Grid: SN283 - 507
Lleolir yr eiddo wrth ochr heol fechan, sy’n arwain i fyny o ganol pentref arfordirol Tre-saith (¾ milltir) i gyrion pentref poblogaidd Tan-y-groes (1 milltir) sydd wrth ochr heol yr A487 Aberteifi – Aberystwyth. Mae gan Dre-saith nifer o gyfleusterau twristaidd gan gynnwys tafarn, caffi a.y.b. Mae Tan-y-groes yn darparu gorsaf danwydd, siop groser a thŷ bwyta. Mae trefi marchnad Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi yn 8 ac 8¼ milltir i ffwrdd, ac mae’r ddwy ganolfan yn darparu nifer o fwynderau dyddiol. Mae Tresaith yn gorwedd wrth ochr Llwybr Troed Arfordirol Cymru, ac mae nifer o bentrefi a thraethau eraill gerllaw.
Cyrraedd yr eiddo
Wrth ymadael â Than-y-groes i gyfeiriad Aberaeron, fe fyddwch yn troi i’r chwith i ffordd fach. Ewch ymlaen am rhyw filltir, ac ar ȏl teithio drwy glȏs Esgaireithin sydd gyda nifer o fythynnod wedi eu haddasu, Maes y Fedwen fydd yr eiddo nesaf â wal gerrig ar y llaw dde ychydig nes ymlaen ar y ffordd, gyda’n harwydd ‘Ar Werth’ i’w weld.
Disgrifiad
Tŷ cerrig gweddol fawr o ran maint â tho llechen, sydd wedi ei adnewyddu yn chwaethus gan gadw sawl nodwedd o gymeriad yr eiddo, ac fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1835 yn ȏl y llechen dyddiad ar y wal flaen.
Mae’r tŷ wedi ei led-godi o’r ffordd fechan, ac yn gorwedd mewn clwstwr bach o dai eraill, ond y mae iddo elfen o breifatrwydd.
Mae’r gerddi wedi cael eu haddasu er mwyn esmwytho gwaith cynnal a chadw, gyda man parcio graeanog ar gyfer 4 – 5 car, ynghyd â borderi aeddfed, ardal patio, lawnt ar oleddf ysgafn, perllan fechan lle y gellir gweld golygfeydd godidog o Fae Ceredigion, ynghyd â’u gweld o agwedd Ogleddol y tŷ. Mae lȏn fechan newydd ei chlirio yng nghefn yr eiddo yn darparu lle ar gyfer storio cychod ayb, ac yn arwain i fyny i ddrysau pren sy’n agor i mewn i gefn y man parcio. Nodwn fod hawl tramwy gan berchennog y cae cyfagos drwy’r man parcio, er nad oes dim defnydd wedi cael ei wneud ohono yn ystod perchnogaeth y gwerthwyr presennol, nac, yn eu barn hwy, am o leiaf 25 mlynedd, ac fe ellir defnyddio’r lȏn sydd newydd ei chlirio yn ei le.
Mae gan y tŷ furiau cerrig hardd sy’n manteisio ar baneli wal ar gyfer insiwleiddio mewnol, cyswllt rhyngrwyd ffibr optig ac erial teledu lloeren, ac mae’n darparu’r llety canlynol (mae pob mesuriad yn fras (mae sawl ystafell â nenfydau cudd):
Drws blaen pren gyda phaneli gwydr lliw â mewnosodiad plwm lefel llygad yn arwain i mewn i:
Cyntedd: Gyda llawr teils chwarel patrymog, grisiau i’r llawr cyntaf, rheiddiadur, cwpwrdd wal yn dal blychau ffiwsiau ayb, drysau yn agor i:
Stydi/Ystafell Eistedd 11’3 x 10’4 gyda ffenestr i’r blaen, llawr paneli pren, 4 pwynt trydan dwbl, pwynt cysylltu teledu, pwynt cysylltu’r rhyngrwyd, drws i’r ystafell amlddefnydd, drws pren panel gwydr yn arwain i’r:
Heulfan (arddull orenfa) 12’ x 10’11 gyda llawr teils cerameg arddull carreg, 5 pwynt trydan dwbl, ffenestri ar dair ochr, wal gerrig rhannol agored, dau ddrws patio yn arwain allan i’r cefn.
Ystafell Fyw 14’11 x 13’4 gyda ffenestri i’r blaen a’r ochr, llawr paneli pren, lle tân pentan gyda thrawst croes ac aelwyd teils llechi, wal effaith-cerrig wedi’i phaentio, gyda dwy gilfach arddangos, stof llosgi coed wedi ei chysylltu, rheiddiadur, 6 pwynt trydan dwbl, 2 bwynt cysylltu teledu, nenfwd â thrawstiau agored, 3 golau wal, 2 olau ar y nenfwd, drysau Ffrengig i mewn i:
Cegin/Ystafell Fwyta 24’8 x 8’8 (uchafswm) 6’5 (lleiafswm).
Ardal Fwyta gyda llawr paneli pren, rheiddiadur, ffenestr i’r cefn, 2 bwynt trydan dwbl, 8 o sbotoleuadau nenfwd mewnol.
Ardal y Gegin gyda ffenestr i’r cefn, llawr teils cerameg arddull cerrig, unedau cegin sylfaen ac unedau wal wedi’u gosod, popty trydanol estynedig ‘Belling Classic’ gyda hob cerameg 5 cylch, a thair adran o ffwrn/gril/cynheswr, hwd echdynnu effaith crȏm, 4 pwynt trydan dwbl, pwynt trydan sengl, pwynt trydan i’r popty, 6 o sbotoleuadau mewnol yn y nenfwd, peiriant golchi llestri integredig ‘Indesit’, 1¼ bowlen sinc a dreinwr sengl cerameg, sblasgefnau teils, drws yn arwain i:
Ystafell Amlbwrpas 11’11 x 7’4 gyda ffenestr i’r ochr, drws pren hanner gwydrog allanol i’r cefn, llawr teils cerameg effaith carreg, unedau cegin sylfaen ac unedau wal wedi’u gosod, lle i sychwr dillad o dan yr arwyneb gweithio, plymio ar gyfer peiriant golchi, uned i ddyfrio basgedi blodau, bowlen sinc 1¼ ac uned dreiniwr sengl o ddur ddi-staen gyda thap cymysgydd drosodd, gwagle ar gyfer peiriant trydanol arall (e.e. Rhewgell), sblasgefnau teils, 3 pwynt trydan dwbl, drws i’r stydi/ystafell eistedd, drws yn arwain i:
Ystafell Gawod 7’11 x 6’4 gyda llawr teils
cerameg effaith carreg, 2 x ffenestr gwydrog afloyw i’r ochr, waliau teils, rheilen tywel wedi’i gynhesu effaith crȏm, rheolydd thermostat, basn ymolchi pedestal, toiled, ciwbicl cawod dwbl cornel gyda drysau llithrog gwydr.
Pen-grisiau i’r blaen gyda mynediad i ofod y llofft, drysau yn arwain i:
Ystafell Wely 1 (ochr chwith) 15’7 uchafswm x 13’8 gyda ffenestr i’r blaen a’r ochr, rheiddiadur, pwynt cysylltu teledu, 4 pwynt trydan dwbl.
Ystafell Wely 2 (ochr dde) 13’7 x 8’7
gyda ffenestri i’r blaen a’r ochr, rheiddiadur, 3 pwynt trydan dwbl.
Ystafell Wely 3 10’11 x 5’7 gyda ffenestr i’r blaen, rheiddiadur panel sengl, 2 bwynt
trydan dwbl.
(Mae ystafelloedd gwely 1 – 3 gyda lloriau
pren wedi’u lamineiddio).
Pen-grisiau i’r cefn gyda phwynt trydan dwbl, rheolydd thermostat, cwpwrdd crasu gyda thanc dŵr poeth â phibell gwasgedd, silffoedd; drysau yn arwain i:
Ystafell Wely 4 16’4 x 6’8 gyda ffenestr i’r ochr, rheiddiadur, 2 bwynt trydan dwbl, 2 x ffenestr Velux i’r cefn a 2 olau ar y wal.
Ystafell Ymolchi 10’1 x 6’6 gyda ffenestr to ‘Velux’ i’r cefn, ffenestr gwydrog afloyw i’r ochr, waliau teils rhannol, bath top rȏl, basn ymolchi dwylo pedestal, toiled, ciwbicl cawod dwbl cornel gyda drws llithrog gwydr, rheilen tywel wedi’i gynhesu effaith crȏm.
Allanol
Cwrt blaen caeëdig gyda wal gerrig isel a gât canolig haearn ar gyfer cerddwyr gyda llwybr tair haen yn arwain i’r drws blaen, â border carreg/llechen ar bob ochr. Llwybr yn mynd o gwmpas ochr Ddeheuol (ochr Tan-y-groes) y tŷ i’r cefn.
Dwy gât haearn yn agor allan i’r ffordd ac yn arwain i mewn i’r man parcio graeanog ar gyfer 4 – 5 car, gyda border aeddfed a wal gerrig wrth ochr y ffordd, gyda nifer o lwyni. I gefn y man parcio mae pâr o ddrysau pren yn arwain allan i’r lȏn llawrpridd/carreg. Mae gan berchennog y cae cyfagos hawl tramwy (er nad ydyw wedi cael ei ddefnyddio yng nghyfnod perchnogaeth presennol Maes y Fedwen). Mae’r lȏn yn rhedeg lawr i’r ffordd fechan, gyda pâr o gatiau pren ar y fynedfa, a llawr graeanog/carreg ar gyfer defnydd posibl o barcio cerbyd ychwanegol/cwch/treilyr ayb.
Mae gweddill y lȏn yn gymwys i blannu porfa neu hyd yn oed i’w ddefnyddio ar gyfer tyfu llysiau os dymunir. Mae’r clawdd ochr Ddeheuol yn darparu cyfleoedd i blannu rhagor o lwyni ayb, ac mae’r clawdd ochr Ogleddol gyda rhes o goed ffawydd wedi eu tocio’n ddiweddar.
Yn arwain o’r man parcio graeanog, mae ramp effaith carreg ar lethr ysgafn yn arwain i ardal ardd uwch i fyny, ac hefyd yn arwain i ardal batio/eistedd/barbyciw, gyda phwynt sengl trydan a thap dŵr allanol, a llwybr yn arwain o gwmpas cefn y tŷ, gyda boiler gwres canolog olew a thanc plastig olew sy’n guddiedig.
Grisiau a/neu lwybr o dan bergola o’r ardal patio yn arwain i fyny at yr ardal ardd uwch, gydag ardal batio arall a mynedfa i Sied Ardd Bren 14’11 x 10’3 (oddi fewn) gyda thrydan a thap dŵr oer allanol (yn addas i’w ddefnyddio at gyfer swyddfa gweithio o adref ayb). Ardal wastad ar gyfer lleoli twba twym ayb. Storfa ar gyfer coed.
Tu hwnt i’r ardal hyn mae lawnt o faint lled dda, gyda rhannau gwastad a llethr ysgafn, gyda pherllan fechan a llwyni, â golygfeydd o Fae Aberteifi.
Mae’r eiddo yn cael ei werthu gyda’r budd o fod gyda phob hawl gan gynnwys hawl tramwy, boed yn rhai sy’n breifat neu’n gyhoeddus, hawl i olau, draeniad a dŵr, trydan a hawliau eraill; hawddfreintiau a lled-hawdd freintiau, cyfamod cyfyngu, pob fforddfraint, naill ai’n bresennol neu’n arfaethedig ar gyfer polion, peilonau, ceblau ac arosiadau, draeniad a dŵr, nwy a phibellau eraill, p’un a’u bod wedi eu nodi neu beidio yn y manylion hyn.
Nodyn yr Asiant
Cyfle prin ac unigryw i feddu ar dŷ â chymeriad, gyda gwaith adnewyddu wedi ei wneud i’r safon orau, ac yn elwa o furiau sydd wedi eu hinsiwleiddio gyda phaneli mewnol ayb. Mae’r gerddi yn hawdd i’w cynnal a’u cadw, ac yn darparu potensial ar gyfer gwaith pellach yn ddibynnol ar chwaeth y perchennog newydd. Mae’r eiddo yn addas ar gyfer sawl defnydd posibl - teulu o faint cymhedrol/ymddeoliad/cartref gwyliau, ac y mae o fewn cyrraedd nifer o bentrefi ar hyd arfordir Bae Ceredigion ynghyd â nifer o drefi marchnad lleol.
Yn bendant, argymhellir trefnu i ymweld â’r eiddo hwn yn fuan!
Disclaimer
All properties are offered for sale subject to contract and availability.
We endeavour to make our sales details accurate and reliable but they should not be relied on as statements or representations of fact and they do not constitute any part of an offer or contract. The seller does not make any representation or give any warranty in relation to the property and we have no authority to do so on behalf of the seller.
Services, fittings and equipment referred to in the sales details have not been tested (unless otherwise stated) and no warranty can be given as to their condition.
We would strongly recommend that all the information which we provide about the property is verified by yourself or your advisers.
Please contact us before viewing the property. If there is any point of particular importance to you we will be pleased to provide additional information or to make further enquiries. We will also confirm that the property remains available. This is particularly important if you are contemplating travelling some distance to view the property.
Zoopla insights
Sign in and gain expert analysis to make informed decisions