£259,950
3 bed property for saleBerllan Deg, Aberaeron SA46
3 beds
1 bath
2 receptions
EPC Rating: D
- Freehold
Evans Bros
.png)
About this property
Ty mewn lleoliad da, ar gyrion Aberaeron
3 ystafell wely
Gwres canolog olew
Gerddi hawdd i'w chynnal a'u cadw
Parcio oddi ar y ffordd
Garej
Mewn lleoliad da ar gyrion Aberaeron
Yn agos at safle bws
O fewn pellter cerdded i'r dref
Ty mewn lleoliad da, ar gyrion Aberaeron, 3 ystafell wely maint cyfforddus gyda'r fantais o wres canolog olew a ffenestri dwbl, ynghyd â gerddi hawdd i'w chynnal a'u cadw a garej
Mewn lleoliad da ar gyrion Aberaeron yn agos at safle bws a'r ganolfan iechyd integredig ac o fewn pellter cerdded i'r dref.
Disgrifiad
Ty mewn lleoliad da, ar gyrion Aberaeron, 3 ystafell wely maint cyfforddus gyda'r fantais o wres canolog olew a ffenestri dwbl, ynghyd â gerddi hawdd i'w chynnal a'u cadw a garej
Derbynfa
Mynediad i gwpwrdd dan y grisiau.
Ystafell Fyw (4.75m x 3.12m (15'7 x 10'3))
Gwresogydd a lle tân gyda ffliw agored.
Lle Ychwanegol (1.91m x 1.30m (6'3 x 4'3))
Yn gynllun agored oddi ar yr ystafell fyw sy'n arwain at yr ystafell fwyta - swyddfa neu stydi delfrydol.
Ystafell Fwyta (3.18m x 2.18m (10'5 x 7'2))
Gwresogydd, ffenest gefn, arwain at y gegin.
Cegin (3.20m x 2.44m (10'6 x 8))
Gydag unedau cegin wedi'u gosod ar lefel gwaelod a wal, popty a hob wedi'i ffitio gyda ffan drosodd a sinc.
Ystafell Amlbwrpas (3.05m x 2.46m (overall) (10 x 8'1 (overall)))
Boeler gwres canolog olew a phlymio ar gyfer peiriant golchi, llawr teils a drws cefn.
Ty Bach
Gyda W.C. A basn golchi dwylo.
Llawr Cyntaf
1/2 Landin
Gwresogydd
Prif Landin
Mynediad i'r cwpwrdd awyru a mynediad i'r llofft trwy ysgol
Ystafell Wely 1 (4.75m x 3.15m (15'7 x 10'4))
Gwresogydd, cypyrddau dillad a ffenest blaen.
Ystafell Wely 2 (3.15m x 2.44m (10'4" x 8'77))
Gwresogydd, cypyrddau dillad a ffenest gefn.
Ystafell Ymolchi
Gyda bath a uned gawod uwchben, basn golchi dwylo, toiled, gwresogydd a waliau wedi'u teilsio'n rhannol.
Ystafell Wely 3 (3.05m x 2.57m (10 x 8'5))
Ffenest gefn a gwresogydd.
Allanol
Parcio oddi ar y ffordd ynghyd â gerddi hawdd i'w chynnal a'u cadw
Garej (6.32m x 2.90m (20'9 x 9'6))
Gyda drws i fyny a throsodd
Gwasanaethau
Prif gyflenwad trydan, dwr a draeniad, gwres canolog olew.
Treth Cyngor - D
Rydym yn ymwybodol taw cyfanswm sy'n daladwy am 2025/26 yw £2,308..
Zoopla insights
Sign in and gain expert analysis to make informed decisions