£695,000
6 bed farm for salePentrebach, Agos i Lanbed SA48
6 beds
2 baths
3 receptions
- Freehold
Evans Bros
.png)
About this property
Tyddyn deniadol 27 erw
Wedi'i leoli'n gyfleus ar gyrion Llanbedr Pont Steffan
Ffermdy 4 ystafell wely
Annedd gyfagos â 2 ystafell wely
Wedi’i leoli yng nghanol dyffryn afon Teifi
Tyddyn deniadol 27 erw wedi'i leoli'n gyfleus ar gyrion Llanbedr Pont Steffan, gyda ffermdy 4 ystafell wely, annedd gyfagos â 2 ystafell wely a beudai cerrig traddodiadol hyfryd. Wedi’i leoli yng nghanol dyffryn afon Teifi, tua milltir o Lanbedr Pont Steffan.
Lleoliad
Un o brif atyniadau’r eiddo hwn yw ei leoliad cyfleus, gyda mynediad deniadol a phreifat oddi ar ffordd A475 Llanbedr Pont Steffan i Lanwnnen, ar hyd lôn daclus wedi’i tharmacio sy’n arwain at yr iard.
Ty Fferm
Cafodd y ffermdy ei adeiladu yn wreiddiol, yn ôl pob sôn, yn 1911 o adeiladwaith traddodiadol, gyda ffenestri uPVC newydd wedi’u gosod yn eu lle a’r tô wedi’i adnewyddu rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r ty angen ei wella, ac yn barod i brynwr roi ei stamp ei hun arno. Mae gan y ty wres canolog wedi’i bweru gan olew.
Drws Ffrynt Yn Arwain At
Cyntedd
Rheiddiadur, grisiau i’r llawr cyntaf, mynediad at gypyrddau storio dan y grisiau
Cegin / Ystafell Fwyta (6.17m x 3.35m (20'3" x 11'))
Gydag ystod o gypyrddau sy'n cynnwys uned sinc draenio sengl, pwynt coginio trydan, stôf Parkray gyda boeler cefn ar gyfer cyflenwad dwr poeth domestig.
Ystafell Haul (3.28m x 2.31m (10'9" x 7'7"))
Drws mynediad ochr
Ystafell Fyw (4.27m x 3.25m (14' x 10'8"))
Drysau Ffrengig i’r blaen, rheiddiadur, tân nwy lpg (heb ei brofi), alcôf
Ystafell Ymolchi (3.28m x 1.80m (10'9" x 5'11"))
Cawod, basn golchi dwylo, toiled, rheiddiadur, drws i’r cyntedd gefn.
Llawr Cyntaf
Mynediad i'r llofft
Ystafell Wely Flaen 1 (3.30m x 3.18m (10'10" x 10'5"))
2 rheiddiadur
Ystafell Wely 2 (2.13m x 1.85m (7' x 6'1"))
Ystafell Wely 3 (3.25m x 3.96m (10'8" x 13'))
Ffenestri agwedd ddwbl, rheiddiadur
Ystafell Wely i'r Cefn (3.66m x 2.87m (12' x 9'5"))
Rheiddiadur, cypyrddau gyda silindr copr
Ystafell Ymolchi (3.00m x 2.13m (9'10" x 7'))
Bath, basn golchi dwylo, toiled, mynediad at gypyrddau sychu gyda rheiddiadur.
Uned Fyw Hunangynhaliol
Yng nghefn y ty, gyda mynediad naill ai gyda chysylltiad rhwng y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, neu gyda mynediad annibynnol mae uned byw hunangynhaliol sy'n manteisio o'r canlynol:-
Ystafell Fyw (4.65m x 4.14m (15'3" x 13'7"))
Gyda lle tân modern, mynediad at gypyrddau storio dan y grisiau.
Cegin (4.72m x 1.93m + recess 1.91m x 1.17m (15'6" x 6'4")
Cypyrddau ac uned sinc draenio sengl
Ystafell Utility (3.81m x 2.01m (12'6" x 6'7"))
Drws i:-
Cyntedd Mewnol
Boeler gwres canolog wedi’i bweru gan olew
Ystafell Ymolchi (3.28m x 1.91m (10'9" x 6'3"))
Rheiddiadur, cypyrddau sychu
Llawr Cyntaf
Ystafell Wely 1 (4.39m x 2.21m (14'5" x 7'3"))
Ffenestr Velux gyda drws i brif adran y ty
Ystafell Wely 2 (4.42m max x 3.66m min x 2.29m (14'6" max x 12' min)
Ffenest i'r ochr
Allanol
Cyrhaeddir yr eiddo drwy lôn breifat wedi’i tharmacio sy’n arwain at iard hyfryd
Beudy (11.28m x 4.57m overall internally (37' x 15 overal)
Wedi’i adeiladu o gerrig gyda tho llechi, wedi’i ail-doi
Adeiladau Ychwanegol (5.97m x 5.13m (19'7" x 16'10"))
Ail Feudy
Gyda beudy cerrig 23'3" x 16'3" a leanto i'r cefn
Adeilad pellach cyfagos- 16' x 14'6"
Yn cynnwys y pwmp dwr gyda llofft arall
Leanto Pellach (5.26m x 5.72m (17'3" x 18'9"))
Beudy (12.19m x 6.40m (40' x 21'))
Gyda Leanto 20' x 40'.
Y Ddaear
Mae’r tir wedi’i rannu’n gaeau o faint deniadol o gwmpas y prif ffermdy a thri cae mwy y tu cefn iddynt. Mae’r eiddo wedi’i ffensio’n eithaf da, gyda digon o dir o amgylch yr eiddo i sicrhau preifatrwydd.
Gwasanaethau
Yn ôl y wybodaeth rydym wedi derbyn, mae'r eiddo wedi’i gysylltu â phrif gyflenwad trydan, dwr preifat o ffynnon, draenio preifat, a gwres canolog wedi’i bweru gan olew i’r prif dy preswyl.
Glynhir Farmhouse - Treth Cyngor - Band F
Swm yn daladwy: £3317
Glynhir Cottage - Treth Cyngor - Band C
Swm yn daladwy: £2041
Cyfarwyddiadau
O Lanbedr Pont Steffan, cymerwch y ffordd A475 tuag at Lanwnnen, a bydd yr eiddo ar yr ochr chwith fel y nodir gan fwrdd gwerthu yr asiant.
Zoopla insights
Sign in and gain expert analysis to make informed decisions.